Gweithgareddau Ieuenctid

Ym Mhenrallt rydym ni'n ymroddgar at ddarparu amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer ein plant a phobl ifanc, gan gyndabod mai nhw ydy eglwys yfory ynghŷd â rhan bywydol o eglwys heddiw.

Dyddiau Sul

Mae gwasanaeth y bore yn dechrau gyda tua hanner awr o addoli i bob oedran. Wedi hyn, mae'r plant yn gadael y prif wasanaeth ar gyfer eu hysgolion Sul. Mae hefyd feithrinfa ar gyfer y plant ieuaf. Mae'r pobl ifanc o 14-18, yr A-Team, hefyd yn mynd allan ar gyfer eu hastudiaeth eu hun, fel arfer gyda coffi a thoesenni, yn hwyrach yn y gwasanaeth. Croeso i blant a phobl ifanc sy'n ymweld â ni gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, a fydden nhw'n cael eu dangos at y grwp sy'n addas i'w hoed.

Yn ystod tymor y prifysgol, mae croeso i aelodau'r A-Team ymuno a'r myfyfrwyr ac oedolion ifanc eraill yng Nghaffi Ffydd wedi gwasanaeth y noswaith.

Canol wythnos

Mae gennym clwb ieuenctid ar Nos Wener, Revolution, ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 ac 18 oed, sy'n rhedeg bob yn ail wythnos (heblaw am wyliau). Hefyd, mae gr&x175;p newydd ar gyfer plant ysgol cynradd (5-11 oed), o'r enw Clwb IAM, sy'n rhedeg ar y nosau Wener eraill. Gwelwch y calendr ar dudalen newyddion i weld dyddiadau'r ddau glwb. Gobeithiwn rhedeg y ddau bob wythnos wedi Nadolig - edrychwch yma am ragor o wybodaeth.

Mae oedolion ifanc Penrallt weithiau yn gwahodd i'r pobl ifanc ddod at eu gweithgareddau. Yn arbennig, maen nhw'n cynnal caffi jazz nos Sadwrn bob hyn a hyn. lle medr pobl ifanc ddod i ymlacio, sgwrsio a bwyta tostïau a theisennau efo cefndir o jazz byw.

ENW

Dyma digwyddiad i bobl ifanc sydd am ddod i eglwys ond sy ddim yn teimlo fasen nhw'n ffitio i mewn yn gwasanaeth i oedolion. ENW yw gwasanaeth ieuenctid, fel arfer ar nos Sadwrn, sy'n cael ei redeg gan ac ar gyfer pobl ifanc Bangor a'r ardal. Mae gynno fo cymysgiad o gerddoriaeth da ac uchel, drama, ffyrdd creadigol o weddïo, sgwrsiau byr am y Beibl a sut i fyw fel Cristion (sdim pregethau trwm fan'ma), a llawer iawn o fwyd. Cynhelier ENW fel arfer unwaith neu ddwywaith y tymor.

Ar gyfer manylion y digwyddiad ENW nesa, gwelwch ein tudalen newyddion.


Am ragor o wybodaeth am unryw un o'n grwpiau neu weithgareddau ieuenctid, cysylltwch â swyddfa'r eglwys. Ceir manylion am weithgareddau penodol hefyd ar dudalen newyddion.