Gwasanaethau ym Mhenrallt

Gwasanaethau'r Bore

Mae oedfa'r bore am 10:30yb ar ddydd Sul.

Dydd Sul yma, 5 Hydref, bydd oedfa cynhaeaf i bob oedran arweinir gan John Thompson.

Os nad ydych chi'n gallu dod i'r adeilad am wasanaeth y bore, croeso i chi ymuno â ni ar Zoom. Bydd y cyfarfod Zoom fel arfer ar agor sawl munud cyn gychwyn yr oedfa ac bydd cyfle i chi siarad efo'r rhai eraill ar Zoom wedyn os hoffech chi.

Gwasanaethau Hwyrol

Mae'r oedfa hwyrol fel arfer am 6yh ar nos Sul, gan amrywiaeth o fformatiau bob wythnos. Yn wahanol i rhai'r bore, dydy'r rhain ddim fel arfer yn cael eu recordio neu ddarlledu ar Zoom.

Nos Sul yma, 5 Hydref, bydd dim gwasanaeth. Yn ei lle, bydd cinio'r eglwys a taith cerdded cymrodorol ar ôl oedfa'r bore.

Rhagor o Wybodaeth

Gwelwch y tudalen newyddion misol am fanylion pellach y rhaglen mis yma.

Gwasanaethau yn y Gorffenol

Fel arfer, rydym ni ddim yn recordio'r oedfa hwyrol. Dydy fideos oedfaon y bore ddim ar gael yn gyhoeddus, ond cysylltwch â swyddfa'r eglwys os hoffech chi fynediad i recordiad gwasanaeth gorffennol.

Mae fideos y pregethau ar gael o hyd ar ein sianel YouTube. Cewch hyd i gysylltau i'r fideos yn ein archif pregethau, ynghŷd â recordiadau sain yn ôl at 2008, a nodiadau neu sleidiau ar gyfer rhai o'r pregethau. Sylwch fod rhai bregethau heb eu recordio.

Gwelwch beth rydym ni wedi bod yn canu yn ddiweddar gan edrych ar ein cronfa ddata caneuon:

Codi Mawl

Noson addoli dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, rhedir gan Caersalem (Caernarfon), Goleudy (Gaerwen) a Penrallt (Bangor), efo mawl, gweddi, tystiolaeth a diolchgarwch. Croeso i bawb. Bydd yr un nesa yng Nghaersalem ar nos Sul 26 Hydref am 7yh, efo lluniaeth ymlaen llaw o 6:30yh.

Cymdeithas Ar-lein
Oedfa'r bore ym Mhenrallt