Pobl yn cyrraedd Penrallt

Croeso i Benrallt

Corff o gredwyr Cristnogol rydym ni, sy'n cyfarfod ym Mangor yng Ngogledd Cymru. Fel eglwys bywiog, ac un sy'n tyfu, mae gennym fel arfer ddau wasanaeth bob dydd Sul yn ogystal â nifer o weithgareddau trwy'r wythnos. Mae gennym ganolfan cymunedol yng nghefn ein hadeilad, sy'n canolbwynt i'n weithrediad i mewn ein cymuned lleol. Nid o Fangor yn unig daw ein haelodau, ond o bobman yng Ngogledd Gwynedd ac Ynys Môn, ac mae gennym berthynas da gyda'r eglwysi eraill yn yr ardal.


Sut mae Penrallt?

Rydym yn ceisio fod yn agored a chyfeillgar, creadigol a modern, doeth ac efo'n traed ar y ddaear, anffurfiol a pherthnasol. Rydym yn ceisio fod yn eglwys lle fyddwch chi'n nesau at Dduw, dysgu rhywbeth defnyddiol, dod â ffrind heb erioed teimlo'n chwithig, teimlo bob amser yn croesawgar, diogel ac wedi'ch deall. Mae ein cerddoriaeth yn mynd o roc i emynau traddodiadol, o ganu gwerin Celtaidd at y gleision, o eistedd-a-meddwl i sefyll-i-fyny-a-chlapio'ch-dwylo.

Er mai eglwys Saesneg yw Penrallt yn bennaf, rydym o blaid yr iaith Gymraeg ac mae sawl ein haelodau yn siarad Cymraeg fel mamiaeth. Rydym yn canu ein hemynau a chaneuon yn ddwyiethog cymaint â phosib ac yn cynnal rhai o'n digwyddiadau yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.

Gan fod ein rhifau yn tyfu, rydym wedi prynu ac adnewyddu hen adeilad mawr ar Ffordd Caergybi. Rydym bellach yn cynnal bob un o'n digwyddiadau a gwasanaethau yno a fasen ni'n hapus i'ch croesawu. Mae map a chyfeiriadau ar gyfer yr eglwys ar gael yma.

Rydym ni'n rhedeg cwrs Alpha ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y ffydd Cristnogol. Am ragor o fanylion ynglŷn â'r cwrs ym Mhenrallt, gwelwch ein tudalen Alpha, ac i ddarganfod mwy am Alpha fedrwch chi ymweld â safwe Alpha ar http://alphacourse.org.

Baptist Union of Great Britain

Hoffech chi ddarganfod mwy am Iesu? Ymwelwch â ReJesus.

Hoffech chi astudio'r Beibl am ddim ar-lein? Ymwelwch â WordLive.


Beth sy'n newydd ar y wefan hon?

Mae tudalen gwasanaethau, tudalen pregethau a thudalen newyddion, ynghŷd â rhestr caneuon diweddar, yn cael ei ddiweddaru yn eitha rheolaidd, felly mae'n werth chweil edrych arnyn nhw yn aml ar gyfer newidiadau. Dyma newidiadau diweddar eraill:

2008-10-21
Ychwanegwyd llun Tim at dudalen staff
2008-10-21
Diweddarwyd tudalen staff a thudalen Caffi Ffydd.
2008-09-08
Diweddarwyd tudalennau Grwpiau cartref a ieuenctid a rhaglen JC4Y
2008-08-28
Newidwyd arddull y wefan. Ychwanegwyd map y wefan.
2008-08-27
Diweddarwyd dolen at wefan Alpha ar dudalen Alpha.
2008-08-11
Ychwanegwyd lluniau newydd at y dudalen hon a thudalen cyfeiriadau.
2008-07-31
Ychwanegwyd map Google at dudlen cyfeiriadau. Ychwanegwyd manylion cwrs Alpha eleni at dudalen Alpha.

Nodyn pwysig ar barcio:

Dros y penwythnos ac yn y noswaith, mae faes parcio'r Brifysgol ar gael. Mae faes parcio Morrisons yn gyfyngedig at ddwy awr ac mae'n llawn ar fore Sul. Sylwch fod nhw'n clampio ceir ym maes parcio preifat drws nesa i'r eglwys trwy'r dydd a'r nos, felly rydym ni'n eich cynghori i beidio â pharcio yno.