Cewch hyd i wybodaeth am Benrallt a manylion beth sy'n digwydd yn ein taflenni newyddion misol (yn Saesneg). Dyma'r taflen newyddion diweddaraf:
Mae taflenni hŷn ar gael o'r archif:
Dan ni'n cario ymlaen efo'n grŵp newydd i blant bach a'i rhieni / gofalwyr, a dechreuodd y tymor diwetha, gan gychwyn ar Ddydd Llun 8 Medi. Mae'r grŵp yn rhedeg ar brynhawn dydd Llun o 1 i 2:30yh; tâl £1 i bob oedolyn efo hyd at 3 o blant Gwelwch y taflen newyddion am fanylion pellach.
Mae ein grŵp ieuenctid canol wythnos wedi ail-lansio fel Youth. Rhedir y grŵp bellach gan Bangor YFC efo gwirfoddolwyr o Penrallt a Mosaic. Bydd yn dal i ddigwydd ar nos Iau yn ystod amser tymor, o 7 i 8:45yh, ym Mhenrallt. Mae o ar agor i bobl ifanc o 11 i 18 oed. Mae rhaid i chi gofrestru i ddod i'r grŵp; defnyddiwch y botwm yma i'w gwneud:
Noson addoli dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, rhedir gan Caersalem (Caernarfon), Goleudy (Gaerwen) a Penrallt (Bangor), efo mawl, gweddi, tystiolaeth a diolchgarwch. Croeso i bawb. Bydd yr un nesa yng Nghaersalem ar nos Sul 26 Hydref am 7yh, efo lluniaeth ymlaen llaw o 6:30yh.
Am wybodaeth ynglyn â digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd, gwelwch rhannau eraill y wefan hon neu edrychwch ar y daflen newyddion. Nodir newidiadau arwyddocaol ar y dudalen hon.
Croeso i chi gysylltu â swyddfa'r eglwys am ragor o fanylion. Os bydd eich porwr yn ei alluogi, defnyddiwch y botwm yma i anfon e-bost atom ni: