Newyddion Penrallt Beth sy'n digwydd yng Nghapel Penrallt, Bangor http://www.penrallt.org/news_cy Magnus Forrester-Barker webmaster@penrallt.org © 2009 Eglwys Bedyddwyr Penrallt 2012-05-02T12:19:12+02:00 Gweddi a Panad http://www.penrallt.org/news/archive/panad.20120502_cy.txt 2012-05-02T12:19:12+02:00

Unwaith bob mis, mae gan ddynion Penrallt cyfle i ddod efo'i gilydd i weddïo. Mae'r cyfarfodydd fel arfer yn digwydd ar Ddydd Mercher cyntaf y mis am 10:30yb yn Ystafell Twrgwyn ym Mhenrallt ac yn parhau am tua 45 munud. Wedyn, mi awn ni dros y ffordd ar gyfer panad o goffi.

Bydd Cyfarfod Gweddi a Panad nesa ar Ddydd Mercher 6 Mehefin.

Sesiynau Nos Sadwrn http://www.penrallt.org/news/archive/saturdaySessions.20120501_cy.txt 2012-05-01T11:56:16+02:00

Cynhelir y nesaf o'n cyfarfodydd misol ar gyfer aelodau (a darpar aelodau) tîm addoli Penrallt ar Nos Sadwrn 26 Mai am 7:30yh ym Mhenrallt. Os ydych chi'n chwarae offeryn, croeso i chi ddod â fo tra bod ni'n addoli efo'n gilydd.

Amcanion y sesiynau hyn ydy:

  • i ni ddod i nabod ein gilydd yn well yn ysbrydol ac yn gymdeithasol
  • i helpu aelodau newydd i ymuno â'r tîm
  • i ni ganolbwyntio ar Dduw ac i gael cyfle i addoli efo'n gilydd heb bwysau oedfa Sul
  • i'r rhai profiadol yn ein plith gallu annog a chefnogi'r rhai mwy newydd ar y tîm

Cysylltwch â swyddfa'r eglwys os hoffech chi ragor o wybodaeth am sesiynau nos sadwrn.

Gweddi dros yr Afradlon http://www.penrallt.org/news/archive/prodigals.20120428_cy.txt 2012-05-01T12:01:44+02:00

Am resymau ymarferol a personol, bydd Gweddi Dros yr Afradlon ddim yn cyfarfod fel grŵp o hyd, ond hoffwn ni gynnal ffocws yn ein gweddiau dros y rhai annwyl sydd wedi nabod yr Arglwydd ond sydd, am rhesymau amrywiol, wedi methu mynd ymlaen yn eu taith ffydd. Rydym ni am ddefnyddio dyddiadur gweddi Penrallt er mwyn dod â nhw i'r Arglwydd bob mis.

Gwahoddir i chi anfon e-bost at swydfa'r eglwys efo unrhyw enwau i ychwanegu at ein rhestr, ac fydden ni'n dal i'w cyflwyno at yr Arglwydd efo'n gilydd. Os ydy hi'n addas, gadewch i ni wybod am unrhyw annogaeth neu anghenion arbennig er mwyn i'n gweddïau gallu bod yn berthnasol!

Cwrw (sinsir) a Sgitls http://www.penrallt.org/news/archive/gingerbeer.20120424_cy.txt 2012-04-24T12:51:25+02:00

Ar Nos Sadwrn 19 Mai bydd noson gemau i ddynion yng Nghanolfan Penrallt, yn ddechrau am 7:30yh. Bydd hwn yn gyfle i ymlacio a chwarae sgitls, dartiau a gemau eraill, neu dim ond i eistedd a sgwrsio. Bydd lluniaeth ar gael i brynu am brisiau da.

Bontnewydd http://www.penrallt.org/news/archive/bontnewydd.20120409_cy.txt 2012-04-03T11:21:28+02:00

Ar (fel arfer) y prynhawn Sul cyntaf o bob mis, mae grŵp bach o Benrallt yn mynd i arwain gwasanaeth byr yn y cartref henoed ym mhentref Bontnewydd, ger Caernarfon. Mae'r gwasanaeth yn ddechrau am 2:15yh. Croeso cynnes i chi ymuno â ni. Mae angen cerddorion a siaradwyr Cymraeg arnom ni yn arbennig.

Mae gwasanaeth nesaf ym Montnewydd i fod i ddigwydd ar Ddydd Sul 7 Mai. Cysylltwch â swyddfa'r eglwys i gadarnhau fod y gwasanaeth ymlaen, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth.

Sul y Pasg http://www.penrallt.org/news/archive/EasterSunday.20120403_cy.txt 2012-04-03T12:02:37+02:00

Bydd Sul y Pasg (8 Ebrill) yn cychwyn i ni efo gwasanaeth awyr-agored ar Roman Camp, ynghyd ag eglwysi eraill Bangor, gan ddechrau am 7yb ac yn parhau am tua hanner awr (ac yn gorffen efo brecwast ym Mhenrallt).

Bydd gwasanaeth y bore, am 10:30yb, mewn dull teuluol gan gynnwys addoli i bob oedran ac wedyn gweithgareddau neilltuol i'r plant. Bydd gwasaneth y nos fel arfer am 6yh.

Dydd Gwener y Groglith http://www.penrallt.org/news/archive/goodFriday.20120403_cy.txt 2012-04-03T11:52:17+02:00

Am 11yb ar Ddydd Gwener y Groglith (6 Ebrill) bydden ni'n ymuno ag eglwysi eraill Bangor ar gyfer Taith Tystiolaeth Cytûn ar hyd Stryd Fawr Bangor, gan gychwn o Eglwys Methodistaidd Sant Ioan (ger Lidl) ac yn gorffen wrth gloc y dre.

Rhwng 5 a 7yh, bydd y capel ar agor ar gyfer Taith i'r Groes. Dyma cyfle i grwydro o gwmpas cyfres o bwyntiau cyfarfod mewn awyrgylch ysbrydol tawel yn arwain at y groes. Mae hi'n cymryd tua 30 munud i gwblhau'r llwybr. Bydd coffi a teisennau croes ar gael yn y neuadd wedyn.

Dydd Iau Cablyd http://www.penrallt.org/news/archive/maundythursday.20120328_cy.txt 2012-04-03T11:30:53+02:00

Ar nos Iau 5 Ebrill bydd Gwasanaeth Cymun Dydd Iau Cablyd yn y neuadd (yn hytrach na'r capel) am 7yh. Bydden ni'n bwyta pryd ysgafn o gawl, bara a chaws efo'n gilydd ac wedyn rhannu mewn gwasanaeth cymun, gan aros o gwmpas y byrddau.

Alpha-lite http://www.penrallt.org/news/archive/alphaLite.20120112_cy.txt 2012-01-12T12:36:27+01:00

Rydym ni wedi cynnal cwrs Alpha ym Mhenrallt bob hydref am tua 10 mlynedd. Bellach rydym ni'n rhedeg ail cwrs bob blwyddyn, gan ddechrau ym mis Ionawr. Mae'r cwrs hwn yn union fel y cwrs arall ond bod fel arfer llai o westeion ac mae'r noson yn cychwyn efo lluniaeth ysgafn yn hytrach na phryd llawn o fwyd; felly Alpha-lite yw enw'r cwrs hwn.

Eleni, rydym ni'n cyfuno dechrau Alpha-lite efo aduniad cwrs Alpha diwethaf. Cynhelir hwn ar Nos Fawrth 24 Ionawr am 7yh yng Nghanolfan Penrallt (y neuadd tu ôl i'r eglwys) ac bydd yn rhoi i chi gyfle i brofi Alpha. Darperir bwfe am ddim ac bydd y noson yn gorffen tua 9:30yh. Os bosibl, gadewch i ni wybod os ydych chi am ddod, ond croeso i chi droi i fynny ar y noson beth bynnag.

Bydd cwrs Alpha-lite ei hun yn ddechrau yr wythnos wedyn ac bydd yn rhedeg ar nos Fawrth am tua 10 wythnos. Does dim rhaid i chi ymuno â'r cwrs wedi ddod i'r sesiwn cyntaf, ond rydym ni'n gobeithio fyddwch chi am wneud yr holl gwrs.

Wythnos Weddi am Undod Cristnogol http://www.penrallt.org/news/archive/wpcu.20120106_cy.txt 2012-01-06T14:54:14+01:00

Bydd Cytûn Bangor yn cynnal cyfres o digwyddiadau fel rhan o Wythnos Weddi am Undod Cristnogol blynyddol ym mis Ionawr 2012. Thema eleni yw Yr ydym i gyd i gael ein newid (1 Corinthiaid 15:51b).

Cynhelir y digwyddiadau canlynol ym Mangor:

Nos Iau 19 Ionawr
7:00pm — Addoliad Eciwmenaidd yng Nghapel Penuel.
Nos Wener 20 Ionawr
7:30pm — yn Eglwys Ein Harglwyddes a Sant Iago.
Nos Lun 23 Ionawr
7:00pm — yn Eglwys Sant Pedr.
Dydd Mawrth 24 Ionawr
12:00-2:00pm — yng Nghapel Penrallt efo crèche. Dewch â chinio i'w rannu.
Blanced Gweddi i Iesu http://www.penrallt.org/news/archive/prayerBlanket.20111124_cy.txt 2011-12-12T15:36:27+01:00

Nos Sul 18 Rhagfyr, 5:00 i 8:00yh.

Profiad amgen o Nadolig ar gyfer y rhai sy wedi blino efo straen y tymor. Dewch â darnau lliain i dorri i mewn i stribedi 2cm (darperir lliain os nad oes gynnoch chi ddim), ysgrifennwch gweddi ar bob stribed ac ymunwch â ni wrth weu blanced i Iesu ar ein gwŷdd 2 metr. Wedyn gewch chi grwydro o gwmpas y gorsafoedd gweddi wrth eich pwysau cyn ymuno â ni am mins peis yn y neuadd. Dewch unrhyw amser rhwng 5 a 8yh i brofi gwir harddwch y Nadolig.

Carolau Cymunedol Golau Cannwyll http://www.penrallt.org/news/archive/carols.20111123_cy.txt 2011-11-23T13:17:44+01:00

Nos Sul 11 Rhagfyr, 6yh

Efo ensemble o gerddorion i arwain y canu a chyfranogiad y grwpiau cymunedol sy'n rhannu Canolfan Penrallt efo ni, rydym ni'n gobeithio mai hwn bydd uchafbwynt Nadolig Bangor Uchaf bob blwyddyn. Ymunwch â ni ar gyfer noson arbennig iawn.

ENW http://www.penrallt.org/news/archive/enw.20111115_cy.txt 2011-11-15T12:34:50+01:00

Sylwch bod y digwyddiad ENW ar Nos Sadwrn 26 Tachwedd wedi'i ganslo. Gobeithir ail-ddechrau ENW yn y flwyddyn newydd. Gwyliwch yma am ragor o wybodaeth.

Sanctuary http://www.penrallt.org/news/archive/sanctuary.20111110_cy.txt 2011-11-15T12:36:20+01:00

Noson dawel o addoli a gwrando yw Sanctuary, sydd yn digwydd yng nghapel Penrallt fel arfer ar Nos Iau olaf y mis, o 7:30yh ymlaen. Yr un nesaf bydd ar Nos Iau 24 Tachwedd.

Efallai cân, efallai darlleniad, efallai cerddoriaeth tawel, efallai gair... yn bendant man tawel ar gyfer gwrando ar Dduw.

Datblygwch eich sgiliau gwrando ar yr Ysbryd Glân mewn awyrgylch tawel heb bwysau. Bydd cefnogaeth gweddi fel y bydd angen.

Tehilla http://www.penrallt.org/news/archive/Tehilla.20111108_cy.txt 2011-11-08T11:19:53+01:00

Nos Sadwrn 12 Tachwedd am 7:30yh ym Mhenrallt. Tehilla (oddi wrth air Hebraeg sy'n golygu "moli") ydy cyfle i ddod at ein gilydd i addoli Duw mewn modd anffurfiol. Mae hi'n amser agored o addoli, lle bod ni'n dod â'n calonnau, meddyliau, dwylo a lleisiau (ac offerynnau) i dreulio amser yn canu at Dduw, neu aros arno fo. Croeso i bawb sydd am addoli!

Alpha http://www.penrallt.org/news/archive/Alpha.20111005_cy.txt 2011-10-06T11:43:42+02:00

Mae ein cwrs Alpha diwethaf wedi cychwyn. Mae'r cwrs yn rhedeg ar Nos Fawrth, gan ddechrau am 7yh.

Dechreuodd y cwrs ar Nos Fawrth 4 Hydref ac bydd o'n rhedeg dros 10 wythnos. Dydy hi ddim yn rhy hir eto i ymuno. Ceir rhagor o fanylion ar ein tudalen Alpha.

Gweithgareddau Ieuenctid Nos Wener http://www.penrallt.org/news/archive/fridayyouth.20110915_cy.txt 2011-09-15T12:31:03+02:00

Mae gweithgareddau Ieunctid nos Wener Penrallt bellach wedi cychwyn am y tymor newydd efo ail-lansiad Revolution, ein grŵp ar gyfer pobl o 12 i 18 oed. Cynhaliwyd Revolution cyntaf y tymor ar Nos Wener 9 Medi ac bydd yn rhedeg bob yn ail wythnos (gwelwch y calendr uchod am y dyddiadau). Rhedir Revolution o 8 i 10yh ac mae tâl o £1 bob wythnos at gostau rhedeg. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ian, sy'n arwain y tîm Revolution.

Mae gennym hefyd grŵp newydd sbon ar gyfer plant ysgol cynradd (5-11), o'r enw Clwb IAM. Bydd hwn yn ddechrau ar Nos Wener 14 Hydref ac yn rhedeg bob yn ail wythnos (ar y wythnosau heb Revolution - gwelwch y calendr am fanylion), rhwng 6 a 7:30yh. Mae'r digwyddiad hwn am ddim. I ddarganfod mwy, cysylltwch ag Ian.

Amser Dechrau Gwasanaethau'r Nos http://www.penrallt.org/news/archive/eveningservices.20110901_cy.txt 2011-09-01T12:05:51+02:00

Gan bod Mis Medi wedi cyrraedd, mae amser dechrau ein gwasanaethau'r nos wedi mynd yn ôl at 6yh, wedi dechreuad hwyrach dros misoedd Mehefin, Gorffenaf ac Awst.

Mae gwasanaethau'r nos yn parhau am tua awr o hyd, ac fel arfer maent yn cynnig dull tawel ac adlewyrchol o addoli. Bydd Caffi Ffydd ar gyfer myfyrwyr ac oedolion ifainc eraill ar Nos Sul, yn ail-ddechrau erbyn diwedd Mis Medi.

Gweithdy Addoli http://www.penrallt.org/news/archive/worshipworkshop.20110816_cy.txt 2011-08-16T13:24:49+02:00

Dydd Sul 11 Medi ym Mhenrallt, wedi oedfa'r bore. Cyfle i arweinwyr addoli, pobl sain, cerddorion, cantorion, pobl creadigol a phawb arall efo diddordeb gyfarfod i fwyta, sgwrsio a meddwl am beth rydym ni'n ei wneud a pam! Pizza am 1yh, gweithdy am 1:30, gan fwriadu gorffen erbyn 3yh.

Mawl ar y Pier http://www.penrallt.org/news/archive/pierpraise.20110722_cy.txt 2011-07-25T14:21:08+02:00

Gohiriwyd y digwyddiad Mawl ar y Pier ar 17 Gorffennaf oherwydd y glaw. Gobeithir ei gynnal ar Ddydd Sul 7 Awst am 2:30yh, pan bydd Penrallt yn ymuno ag eglwysi eraill Bangor i ganu fawl i Dduw wrth ben draw Pier Bangor.

Cynhelir y digwyddiad gan Cytûn Bangor. Bydd o'n parhau am tua awr ac bydd o'n gorffen mewn amser i chi fynd i gael panad yn siop te ar ben y pier os hoffech chi.

Paul Jones & Fiona Hendley: Noson ym Mhenrallt http://www.penrallt.org/news/archive/PaulJones.20110616_cy.txt 2011-06-16T14:24:21+02:00

Nos Lun 11 Gorffennaf yng Nghapel Penrallt; drysau ar agor 7:15yh. Mynediad am ddim.

Sut ydych chi'n cymysgu gyrfa mewn darlledu, sioeau cerdd West End, actio ar y deledu a'r llwyfan, chwarae efo'r Blues Band, bod mewn priodas a chyflwyno sioe wythnosol ar Radio 2? Dewch i ddarganfod beth sy'n gyrru Paul a Fiona!

Mae Paul a Fiona wedi cael gyrfaoedd yn diwydiant adloniant ac wedi bod mewn priodas efo'u gilydd ers dros 15 mlynedd. Byddent yn canu caneuon oddi wrth eu halbwm Personal ac yn rhannu'r hanes o sut caethon nhw o hyd i hapusrwydd gwir a ffydd go iawn. Byddent hefyd yn rhannu am beth sy'n gadael iddynt ddal i fynd, efo'u gilydd, yn yr amseroedd gwallgof hyn.

Quiz Aid http://www.penrallt.org/news/archive/quizaid.20110517_cy.txt 2011-05-17T17:22:31+02:00

Dewch i Penrallt i ddangos eich gwybodaeth ar Nos Sul 21 Mai am 7:30yh. Bydd 4 - 6 o bobl ar bob tîm a croeso i chi ddod efo tîm parod neu ymuno â tîm ar y noswaith. Tâl mynediad bydd £2 yr un ac bydd pob elw yn mynd at Christian Aid.

Sul y Pasg http://www.penrallt.org/news/archive/EasterSunday.20110419_cy.txt 2011-04-19T12:23:37+02:00

Bydd Sul y Pasg (24 Ebrill) yn cychwyn i ni efo gwasanaeth awyr-agored ar Roman Camp, ynghyd ag eglwysi eraill Bangor, gan ddechrau am 7yb ac yn parhau am tua hanner awr (ac yn gorffen efo brecwast ym Mhenrallt).

Bydd gwasanaeth y bore, am 10:30yb, mewn dull teuluol gan gynnwys addoli i bob oedran ac wedyn gweithgareddau neilltuol i'r plant.

Gyda'r nos, cynhelir gwasanaeth bedydd am 6yh, pan bedyddir ddau o bobl. Croeso i bawb ddod i glywed eu datganiad o ffydd.

Dydd Gwener y Groglith http://www.penrallt.org/news/archive/goodFriday.20110406_cy.txt 2011-04-19T12:05:34+02:00

Am 11yb ar Dydd Gwener y Groglith (22 Ebrill) bydden ni'n ymuno ag eglwysi eraill Bangor ar gyfer Taith Tystiolaeth Cytûn ar hyd Stryd Fawr Bangor, gan gychwn o Eglwys Methodistaidd Sant Ioan (ger Lidl) ac yn gorffen wrth gloc y dre.

Rhwng 5 a 7yh, bydd y capel ar agor ar gyfer Around the Cross - pointers to faith at Easter time. Crwydrwch o gwmpas cyfres o bwyntiau cyfarfod mewn awyrgylch ysbrydol tawel yn arwain at y groes. Mae hi'n cymryd tua 30 munud i gwblhau'r llwybr. Bydd coffi a byns croes poeth ar gael yn y neuadd wedyn.

Cymun Cymdeithas Dydd Iau Cablyd http://www.penrallt.org/news/archive/maundyThursday.20110405_cy.txt 2011-04-05T12:09:45+02:00

Ar Nos Iau Cablyd (21 Ebrill) am 7:00yh down at ein gilydd yn neuadd Penrallt (nid yn y capel ei hun) ar gyfer Cymun Cymdeithas. Bydd pryd ysgafn o fwyd gan gynnwys cawl, bara a chaws, ac wedyn bydden ni'n dathlu Gwasanaeth Cymun gan aros wrth y byrdd. Trefnir ac arweinir y digwyddiad gan Geoff a Marilyn Birch.

Gweddi a Panad http://www.penrallt.org/news/archive/panad.20110307_cy.txt 2011-03-11T12:14:48+01:00

Unwaith bob mis, mae gan dynion Penrallt cyfle i ddod efo'i gilydd i weddïo. Mae'r cyfarfodydd fel arfer yn digwydd ar Ddydd Mercher cyntaf y mis am 10:30yb yn Ystafell Twrgwyn ym Mhenrallt. Mae o'n parhau am tua 45 munud. Wedyn, mi awn ni dros y ffordd ar gyfer panad o goffi.

Bydd Cyfarfod Gweddi a Panad nesa ar Ddydd Mercher 6 Ebrill.

Cyfarfod Gweddi Bugeiliaid Stryd Bangor http://www.penrallt.org/news/archive/SPprayer.20110126_cy.txt 2011-01-26T11:56:52+01:00

Nos Wener 25 Chwefror yng Nghapel Penuel, 8:45yh tan tua 9:30yh. Dyma'ch cyfle i ddarganfod rhagor am waith Bugeiliaid y Stryd ac i weddïo efo'r tîm. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Magnus ar bangor@streetpastors.org.uk neu 07580 607186.

Alpha Lite 2011 http://www.penrallt.org/news/archive/alpha.20110112_cy.txt 2011-01-13T14:18:22+01:00

Cwrs Alpha ydy cyfle i bawb archwilio'r ffydd Cristnogol. Mae'r cwrs yn rhedeg dros gyfnod o tua 10 wythnos, ac mae o'n lle gwych i ymlacio, wneud ffrindiau, cael hwyl, a dysgu, mewn awyrgylch di-fygythiol.

Fel arfer mae Cwrs Alpha Penrallt yn rhedeg yn ystod yr hydref ac yn gorffen cyn Nadolig. Eleni rydym ni'n rhedeg cwrs Alpha arall, sy'n digwydd ym Mis Ionawr, ar gyfer y rhai a collodd y cwrs diwetha a ddim am aros tan Mis Medi nesaf. Bydd y cwrs yn rhedeg ar Nos Fawrth o 7yh ymlaen, gan ddechrau ar 18 Ionawr a rhedeg am tua 12 wythnos. Enw'r cwrs hwn yw Alpha Lite gan bydd llai o bobl arno nag arfer ac bydd bob noson yn ddechrau efo lluniaeth ysgafn yn hytrach na pryd o fwyd llawn; bydd cynnwys y cwrs ei hun yr un fel ar y cwrs Alpha rheolaidd.

Os hoffech chi ymuno âr cwrs hwn neu gael wybodaeth bellach amdano, ffoniwch Lawrence Moss (01248 713793) neu cysylltwch â swyddfa'r eglwys.